Drysau Agored

Mae Cymru’n un o’r 50 o wledydd sy’n cymryd rhan yn rhaglen Drysau Agored, sy’n cael ei galw’n rhyngwladol yn rhaglen Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd. Y rhaglen hon yw’r dathliad blynyddol mwyaf o bensaernïaeth a diwylliant yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach, a’r digwyddiad gwirfoddoli mwyaf yn y sector treftadaeth. Mae’n rhoi mynediad am ddim i aelodau’r cyhoedd weld agweddau newydd ar dreftadaeth adeiledig, ac yn denu ymwelwyr i Gymru o bob cwr o’r byd.

Gadael Ymateb