Dafydd Wyn Orritt
Uwch-weithredwr Cyfrif
Ers 2021, mae Dafydd wedi ymgolli ym myd cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus yma yn Equinox — gan gyfrannu at bopeth o gynhyrchu TikToks feiral i gysylltiadau traddodiadol â'r cyfryngau... a'r cyfan wrth gadw ysbryd y tîm i'r uchaf gyda'i hiwmor!
Prif ddiddordeb Dafydd yw hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol — yn cynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd uchel-eu-himpact i'n cleientiaid, yn ddwyieithog.
Pan nad yw Dafydd yn cadw i fyny â'r tueddiadau cyfryngau cymdeithasol neu'r newyddion diwylliant pop diweddaraf (‘niche memes’ yw ei beth) — cewch hyd iddo’n mwynhau gwydraid oer o rosé (ysgafn wrth gwrs) yng nghanol dinas Caerdydd, neu ar daith gerdded heddychlon yn ei dref enedigol, Llanberis (gyda latte fanila mewn llaw, mae'n debyg). Ac mewn arddull Gen-Z go iawn, mae'r cyfan wedi'i ddal ar ei gyfrif Instagram foodie.