top of page

Man

Engine

Cymru

Dod â’r ‘Man Engine’ i Dde Cymru

Yr oedd prosiect Man Engine Cymru yn fenter gydweithredol ar draws y sector diwylliannol yng Nghymru, gyda Phrifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, pum awdurdod lleol (Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr, Rhondda ac Abertawe), Head 4 Arts a Golden Tree Production.

 

Comisiynwyd Equinox i arwain ar gysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol ar gyfer taith Gymreig y Man Engine, gan weithio’n agos gyda phartneriaid o gam cyhoeddi’r daith ym mis Hydref 2017 tan y daith ei hun ym mis Ebrill 2018.

Tactegau

​

  • Paratowyd pecyn i’r cyfryngau i gyhoeddi'r daith ym mis Hydref 2017

 

  • Cyhoeddi bod tocynnau’n cael eu rhyddhau ymlaen llaw ar gyfer taith Man Engine Cymru, gan gynnwys pecyn llawn i’r cyfryngau

 

  • Rheoli lansio digwyddiadau i’r wasg ym Mlaenafon ac Abertawe, gan reoli ffotograffiaeth, fideograffiaeth, presenoldeb y cyfryngau ac ymweliad Gweinidogol gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas 

Canlyniadau

​

  • 75 darn o gynnwys yn y cyfryngau rhanbarthol cyfryngau cenedlaethol Cymru a chyfryngau cenedlaethol y DU, gan gynnwys Wales Online, BBC Wales Today, BBC Radio 4 a BBC Breakfast

 

  • Llawer iawn o gyhoeddusrwydd cadarnhaol ar gyfryngau cymdeithasol, o negeseuon trydar gan newyddiadurwyr uchel eu proffil i adborth gan aelodau o’r cyhoedd 

 

  • 33.9m OTS cysylltiadau cyhoeddus

 

  • 43,000 o docynnau wedi’u gwerthu

 

  • Cyrraedd 2.5m (+4,932% yn uwch na’r targed) ac ymgysylltu â 97k (+1,154 yn uwch na’r targed) ar y cyfryngau cymdeithasol

bottom of page