Rhian
Floyd
Uwch-reolwr Cyfrif
Mae Rhian yn rheolwr prosiect trwyadl — yn arbenigo mewn cyswllt rhanddeiliaid ac ymgyrchoedd Cymraeg-gyntaf — profiad sydd wedi’i hogi gan ei gwaith i gleientiaid gan gynnwys Partneriaeth, Llywodraeth Cymru and Trwyddedu Teledu’r BBC.
Mae Rhian yn haneru’i hamser rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd, ac felly’n mwynhau bywyd deuol go iawn — yn profi bwytai newydd y ddinas gyda ffrindiau tra yng Nghaerdydd ac yn mwynhau cerdded yr arfordir gyda’i chŵn, Elsi, Mili a Nel, tra adref yng Ngheredigion.
Yn gyfrifol am yrru gweithgaredd a sicrhau canlyniadau eithriadol vs. KPIs i’w chleientiaid, mae Rhian yn rhywun y gallwch ymddiried ynddi go iawn — ac yn bendant yn rhywun hoffech chi gael yno mewn creisis, fel ein arweinydd yn y maes hwnnw.
Mae Rhian hefyd yn un o’n hyfforddwyr sydd wedi’i hachredydu gan ILM, sydd wrth ei bodd yn ysbrydoli eraill yn ystod ei sesiynau hyfforddi dwyieithog.